Ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg
Rydym yn cyhoeddi ein Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf, sy'n nodi ymrwymiad y Coleg i gefnogi lluoedd Cymru.
Arweiniodd Arolygydd yn Heddlu Gogledd Cymru, Gethin Jones, siaradwr Cymraeg, ddatblygiad y cynllun pan oedd ar secondiad yn y Coleg. Meddai: 'Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda'r Coleg i ddatblygu'r darn pwysig hwn o waith. Er nad oes unrhyw rwymedigaeth ffurfiol i'r Coleg gael cynllun, mae'n wych eu bod yn cefnogi'r Gymraeg fel hyn.
'Mae gweithio gyda'r Coleg wedi gwneud i mi weld cymaint y maent yn cefnogi plismona mewn meysydd hanfodol ac mae'n wych y bydd pobl o gymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael mynediad at y gefnogaeth honno hefyd.'
Mae'r cynllun yn amlinellu sut y bydd y Coleg Plismona yn darparu rhai o'i wasanaethau i'r cyhoedd, yn ogystal â swyddogion a staff yng Nghymru. Mae Comisiynydd y Gymraeg a'r Safonau Iaith Cymraeg a osodwyd ar heddluoedd Cymru wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad y cynllun.
Croesawodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki o Heddlu Gogledd Cymru y cynllun hefyd. Meddai:
Mae'n wych gweld y cynllun yn dwyn ffrwyth ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cydweithredu â'r Coleg ar y darn pwysig hwn o waith.
Rwy'n gwybod y bydd Heddlu Gogledd Cymru a chydweithwyr plismona ledled Cymru yn croesawu'r gefnogaeth ychwanegol y bydd hyn yn ei rhoi i gymunedau lleol a'n cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg.
Mae gwaith i weithredu'r cynllun eisoes ar y gweill, gan gynnwys cyfieithu dogfennau allweddol a deunyddiau ategol.